top of page

Short films

(Scroll down to see more)

Cataract mountain

Milo

Music videos

Papur Wal – Yn y Weriniaeth Tsiec (Fideo)
05:30
Ochr 1

Papur Wal – Yn y Weriniaeth Tsiec (Fideo)

Cafodd Jan Hudec ei eni i’r byd hwn yn 1981 yng nghanol erchylltra rhyfeloedd Tsiecoslofacia yn Sumperk, sydd erbyn hyn yn rhan o’r Weriniaeth Tsiec. Yn syfrdanol, mudodd ei deulu o’r Weriniaeth Tsiec i’r Almaen ar fad homemade ei dad, cyn setlo yng Nghanada ger Calgary blynyddoedd yn ddiweddarach. Tyfodd Jan fyny yng Nghanada a breuddwydiodd am gynrychioli ei wlad. Trwy gydol ei yrfa sgïo, roedd Jan yn cael ei weld fel dyn gwyllt, dirgelus, bywyd y parti a cult hero nad oedd erioed wedi profi gwir lwyddiant. Roedd hynny tan iddo gipio medal efydd yn hydref ei yrfa yn 32 oed, un o fuddugoliaethau mwyaf annhebygol y gemau Olympaidd erioed, wedi iddo dreulio’r wythnos flaenorol yn methu codi o’i wely oherwydd poen. Er ei gamp anhygoel fel y gŵr cyntaf i ennill medal i Ganada ers 20 mlynedd, cafodd ei wahardd o dîm sgîo Canada. Trodd yn lle, i gynrychioli gwlad ei enedigaeth, Y Weriniaeth Tsiec yn ei ras olaf yn 36 oed. Dyma stori arwr mwyaf annhebygol Canada a’r Weriniaeth Tsiec. —————————— Cyfarwyddwyd y fideo gan Billy Bagilhole. Daw’r gân o EP newydd Papur Wal, Lle yn y Byd Mae Hyn, sy allan 29.03.2019 ar Recordiadau Libertino. PAPUR WAL: https://twitter.com/papurwal | https://soundcloud.com/user-544168091 | https://www.facebook.com/papurval/ Tanysgrifia i sianel Ochr 1: https://bit.ly/YouTubeOchr1 Dilyna ni ar Twitter: https://twitter.com/Ochr1 Hoffa Hansh: https://facebook.com/hanshs4c/
bottom of page